| Roedd cap nos yr eira ar gopa pob bryn
|
| A rhew wedi gwydro pob dwr, ffos a llyn
|
| A Gwenno’n gweu hosan wrth olau’r tân glo
|
| A Huwcyn oedd yn aros wrth dwll bach y clo
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

| Y gath oedd yn gorwedd yn dwrch ar y mat
|
| A’r tad yn pesychu wrth smocio ei giat
|
| Y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho'
|
| A Huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
|
| Y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho'
|
| A Huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo
|
| Y fam yn methu deall fod Gwenno mewn gwanc
|
| Mor wirion â charu rhyw lefan o lanc
|
| A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o
|
| A’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
|
| A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o
|
| A’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo
|
| Y tad aeth i fyny i’r lloffta uwchben
|
| A’r fam roes agoriad y drws dan ei phen
|
| Ond Gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo
|
| ‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
|
| Ond Gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo
|
| ‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo
|
| ‘Roedd swn y dylluan fel boda yn y coed
|
| A’r ci bach yn cyfarth wrth glywed swn troed
|
| A Huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo
|
| ‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
|
| A Huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo
|
| ‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo
|
| A chyn pen y flwyddyn roedd Gwenno Jones yn wraig
|
| A Huwcyn yn hwsmon i fferm Tan-y-Graig
|
| A chanddynt un baban, y glana’n y fro
|
| Ac arno roedd man geni — llun twll bach y clo!
|
| Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
|
| Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch
|
| A chanddynt un baban, y glana’n y fro
|
| Ac arno roedd man geni — llun twll bach y clo! |